Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Deddf Galluedd Meddyliol ac Amddifadu o Ryddid

Bob dydd, rydyn ni'n gwneud penderfyniadau am ein bywydau. Efallai bod y penderfyniadau yma am bethau syml, fel yr hyn rydyn ni'n ei fwyta neu'n ei wisgo. Efallai eu bod am bethau pwysig hefyd, fel ein hiechyd, ein gofal, a'n materion ariannol. 

'Galluedd meddyliol' yw enw'r gallu yma i wneud penderfyniadau.  Does gan rai pobl ddim galluedd meddyliol, a dydyn nhw ddim yn gallu gwneud rhai penderfyniadau penodol drostyn nhw'u hunain. Er enghraifft, mae modd i'r bobl yma gynnwys pobl â dementia, pobl ag anableddau dysgu, neu bobl â phroblemau iechyd meddwl.

Cyfraith ynglŷn â gwneud penderfyniadau a beth i’w wneud pan na all pobl wneud rhai penderfyniadau drostyn nhw'u hunain yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae rhai adnoddau a fydd efallai'n ddefnyddiol i chi isod.