Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant

Beth yw camfanteisio'n rhywiol ar blant?

Math o gam-drin rhywiol yw camfanteisio'n rhywiol ar blant (CSE). Mae'n digwydd pan fydd person ifainc yn cael ei annog, neu ei orfodi, i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol

Efallai bydd y wobr yn cynnwys anrhegion, arian, alcohol neu, yn syml, sylw emosiynol.

Gall hyn ddigwydd i unrhyw blentyn neu berson ifanc.

Efallai bydd yn ymddangos fel cyfeillgarwch neu berthynas arferol i gychwyn.

Gall ddigwydd ar-lein neu oddi ar y rhyngrwyd, a heb fod y person ifanc yn effro iddo.

I bwy mae hyn yn digwydd?

  • Gall      unrhyw berson ifanc ddioddef camfanteisio rhywiol
  • Gall      ddigwydd i fechgyn yn ogystal â merched
  • Gall      ddigwydd i bobl ifainc o bob hil a chefndir
  • Mae      pobl ifainc sy'n wynebu problemau yn y cartref, pobl ifainc sy'n mynd ar      goll neu sydd mewn gofal yn gallu bod yn agored i niwed ac mewn perygl      penodol, ond mae modd i gamfanteisio'n rhywiol ar blant hefyd ddigwydd i'r      rheiny sy'n dod o gartref cariadus a chefnogol

Sut mae hyn yn digwydd?

Gall camfanteisio rhywiol fod yn anamlwg oherwydd, yn aml, byddwch chi'n teimlo fel eich bod chi'n rhan o berthynas dda gyda'r person - neu bobl - sy'n cam-drin eich ymddiriedaeth ynddyn nhw. Efallai eich bod chi'n cael eich camfanteisio gan ffrind neu grŵp o ffrindiau, neu rywun rydych chi'n ei ystyried yn gariad, neu efallai ei fod yn berson neu grŵp o bobl rydych chi newydd ei gwrdd, naill ai mewn person neu ar-lein.

Yn aml, bydd pobl sy'n camfanteisio arnoch chi'n garedig â chi, eich ffrindiau a'ch teulu; efallai byddan nhw'n prynu pethau i chi gan gynnwys alcohol neu gyffuriau, efallai byddan nhw'n gwrando ar eich problemau, mynd â chi i lefydd gwych, bod yna i chi ac efallai byddan nhw'n cynnig lle i chi aros pan fyddwch chi'n wynebu problemau.

Mae unrhyw un sy'n eich perswadio chi i gael rhyw gyda nhw neu berson arall, neu'n eich annog chi i anfon lluniau rhywiol ohonoch chi dros neges destun neu dros y we yn gyfnewid am y pethau maen nhw wedi'u prynu i chi, fel cyffuriau, alcohol, sigaréts, arian, bwyd, llety neu sylw, yn camfanteisio'n rhywiol arnoch chi, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo fel eu bod nhw'n gwneud hynny.

Os ydy rhywun yn gofyn i chi neu’n eich gorfodi i wneud rhywbeth sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus neu'n gwneud i chi boeni neu'n teimlo'n anghywir, cofiwch ei bod hi'n debygol o fod yn anghywir.

Ble mae modd i chi ddod o hyd i help?

Os ydych chi'n poeni am sefyllfa rydych chi neu ffrind ynddi, siaradwch ag oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo cyn gynted ag y bo modd. Cofiwch, os ydych chi mewn perygl uniongyrchol neu os ydych chi angen cyngor ar frys, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Mae ffilm fer wedi cael ei chynhyrchu gan Gabinet Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful, pwrpas y ffilm yw codi ymwybyddiaeth o fasnachu pobl a chamfanteisio'n rhywiol ar blant

Mae rhagor o help a chyngor ynglŷn â chadw'ch hun yn ddiogel o gamfanteisio rhywiol ar gael yma: