Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Adolygiad Dynladdiadau Trais Domestig wedi'i gyhoeddi gan Bartneriaeth Cymunedau Diogel a'r Bwrdd Diogelu

review-rubber-stamp

 

Mae Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf, ar y cyd â Bwrdd Diogelu Cwm Taf (sydd bellach yn cael ei adnabod fel Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg) wedi cyhoeddi Adolygiad Dynladdiadau Trais Domestig yn ddiweddar mewn perthynas â marwolaeth dyn a oedd yn byw yn ardal Cwm Taf.

Mae'r adroddiad, sy'n cael ei lunio yn dilyn marwolaeth unigolyn o ganlyniad i drais, cam-drin neu esgeulustod gan rywun y mae ef/hi wedi bod mewn perthynas agos gyda rhywun o'r un cartref.

Caiff yr adroddiadau yma'u llunio gyda mewnbwn nifer o asiantaethau, gyda'r bwriad o nodi gwersi i'w dysgu o'r farwolaeth fel bod modd rhoi mesurau ar waith i atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd yn y dyfodol, lle'n bosibl.                                   

Wedi ei bostio ar Wednesday 21st August 2019