Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Awydd gwybod rhagor am Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion?

New CTMSB logo

Mae Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion yn cael eu cynnal gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol yn dilyn digwyddiadau sylweddol lle mae cam-drin neu esgeuluso plentyn neu oedolyn sydd mewn perygl yn hysbys neu'n cael ei amau.

Bydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn darparu sesiynau gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth ar adolygiadau ymarfer plant ac oedolion. Bydd hyn yn berthnasol i'r rheiny sy'n:

Gweithio i asiantaeth bartner y Bwrdd Diogelu ac mewn rôl a fydd o bosibl yn gofyn i chi atgyfeirio neu gymryd rhan mewn adolygiad ymarfer plant ac oedolion.

Bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno gan aelodau o'r Bwrdd Diogelu a fydd yn egluro pwrpas, rolau a'r broses Adolygiadau Ymarfer.

Mae pedair sesiwn yn cael eu cynnal ledled y rhanbarth:

 

Ddydd Iau, 12 Mawrth

 

 

1pm–4pm

Canolfan Bywyd Halo Pen-y-bont ar   Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH

Dydd Mercher, 18 Mawrth

 

9.30am–12.30pm

Bar Cynhadledd, Canolfan Hamdden   Llantrisant, CF72 8DJ

Dydd Mercher, 18 Mawrth

 

1pm–4pm

Bar Cynhadledd, Canolfan Hamdden   Llantrisant, CF72 8DJ

Dydd Llun, 30 Mawrth

 

 

1pm–4pm

Canolfan Fusnes Orbit, Parc Busnes   Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1DL

 

Er mwyn cadw lle, e-bostiwch Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg elise.robins@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar Wednesday 29th January 2020