Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol yn ystod argyfwng Covid-19

Mae’r Heddlu yng Nghymru yn ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau partner i ddiogelu’r rheini sydd wedi wynebu trais neu gamdriniaeth rywiol, a dwyn troseddwyr i gyfrif am eu gweithredoedd.

Mae’r Heddlu yng Nghymru yn ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau partner i ddiogelu’r rheini sydd wedi wynebu trais neu gamdriniaeth rywiol, a dwyn troseddwyr i gyfrif am eu gweithredoedd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Danny Richards, Arweinydd Plismona Cymru ar gyfer Bregusrwydd a Diogelu

“Mae trais a chamdriniaeth rywiol yn annerbyniol mewn unrhyw sefyllfa ar unrhyw adeg.

“Os oes rhywun yn ein cymunedau yn dioddef, neu’n teimlo eu bod mewn perygl o wynebu trais neu gamdriniaeth rywiol, mae’n bwysig eu bod yn gwybod bod help a chymorth ar gael yn ystod argyfwng Covid-19.

“Ni ddylai unrhyw un deimlo’n anniogel yn eu cartref neu eu cymuned – rydym yma a byddwn yn helpu. Bydd ein swyddogion a hyfforddwyd yn arbennig yn gweithio gyda’r unigolyn, a’r ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol leol (SARC), i ddarparu’r gofal a’r cymorth priodol.”Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’i iechyd meddwl o ganlyniad i oroesi trais neu gamdriniaeth rywiol, i gysylltu â ni.

“Peidiwch â dioddef yn dawel. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.”

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn darparu gwasanaethau meddygol a fforensig arbenigol i gefnogi unrhyw un – menywod, dynion, pobl ifanc a phlant – sydd wedi cael eu treisio neu sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol.

Dywedodd Sarah Thomas, Rheolwr Llwybrau Newydd

“Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn fannau diogel, lle y gellir cynnal cyfweliadau’r heddlu ac archwiliadau fforensig yn breifat.

“Mae ein staff arbenigol wedi cael hyfforddiant i helpu dioddefwyr a goroeswyr, ni waeth pryd na ble y digwyddodd yr ymosodiad, a byddant yn helpu’r unigolyn i wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch beth i’w wneud nesaf.

“Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau iechyd rhywiol a chwnsela, ac nid oes angen i chi hysbysu’r heddlu er mwyn cael ein cymorth. Gallwch gysylltu â’ch Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol leol yn uniongyrchol i gael cyngor ac arweiniad annibynnol am ddim.

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yn parhau i fod ar agor yn ystod pandemig COVID-19, gyda gwasanaethau’n cael eu darparu wyneb yn wyneb neu o bell, dros y ffôn neu drwy fideogynadledda, gan ddibynnu ar anghenion yr unigolyn.

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol:

I’r rheini sy’n byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, cysylltwch â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Ynys Saff.

Ar gyfer pob ardal arall yn ardaloedd heddlu De Cymru, Gwent a Dyfed Powys, cysylltwch â Llwybrau Newydd.

Amethyst yw’r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ar gyfer ardal Gogledd Cymru.

Gall llinell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn hefyd roi help a chymorth i’r rheini sy’n wynebu trais neu gamdriniaeth rywiol neu sy’n adnabod rhywun sy’n wynebu hynny. Gellir cysylltu â chynghorwyr sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy sgwrsio dros y we.

Os byddwch yn amau bod rhywun yn eich teulu neu eich cymuned yn wynebu trais neu gamdriniaeth rywiol, rhowch wybod i’r heddlu. Ffoniwch 101 neu 999 mewn argyfwng. Gallwch hefyd roi gwybod i Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Ceir rhagor o wybodaeth ar-lein gan Lywodraeth Cymru am drais a chamdriniaeth rywiol, a sut i gael gafael ar gymorth yn ystod argyfwng Covid-19.

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th May 2020