Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Rhieni a Chynhalwyr

Mae diogelwch a lles - hynny yw, diogelu - pob plentyn yn fater i bawb. Mae'n bosib eich bod chi'n berthynas, gymydog, ffrind, rhiant, gwarchodwr plant, athro neu'n feddyg - neu'n gweithio i fudiad sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Safeguarding-Paper-Chain-Parents

Rhieni a Chynhalwyr

Mae'r rhan fwyaf o blant yn mwynhau plentyndod hapus gyda'u teuluoedd eu hunain. Yn anffodus, dydy hyn ddim yn wir i bawb.

Yn ystod adegau anodd i'r teulu, rhaid i bawb sy'n adnabod y plentyn wneud eu gorau i ddiogelu'r plentyn a'i amddiffyn rhag niwed yn y dyfodol. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant rhag cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol yn ogystal ag esgeulustod. Mae diogelu hefyd yn golygu helpu plant i dyfu'n oedolion hapus, hyderus ac iach.

Mae'r rhan yma o'r wefan yn cynnig gwybodaeth i helpu rhieni, cynhalwyr neu warcheidwaid i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Drwy ddarparu gwybodaeth am wahanol fathau o gam-drin a'ch cyfeirio chi at ble i rannu eich pryderon neu i gael rhagor o help a chefnogaeth, rydyn ni'n sicrhau bod Diogelu wir yn gyfrifoldeb ar bawb.

Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Beth i'w wneud os ydych chi'n pryderu am blentyn

Os oes gyda chi bryderon ynghylch diogelwch plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â'ch Carfan Diogelu leol

Cam-drin yn y Cartref

Rhagor o fanylion am gam-drin yn y cartref a sut i ddod o hyd i gymorth