Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Logan Mwangi Adolygiad Ymarfer Plant

Mae rhwymedigaeth ar bob asiantaeth sy’n ymwneud â gofalu am, cefnogi ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg i sicrhau bod y safonau uchaf posibl o ofal, cymorth ac amddiffyniad yn cael eu darparu a’u cynnal bob amser.

Rhan o'r rhwymedigaeth hon yw gofyniad i ddysgu o gamgymeriadau, yn enwedig y rhai sy'n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf gyfrifoldeb i sefydlu Adolygiad Ymarfer pan fydd y meini prawf sy’n ofynnol yn cael eu bodloni.

Cynhelir Adolygiad Ymarfer os; bod camdriniaeth neu esgeulustod yn hysbys neu’n cael eu hamau a bod yr unigolyn wedi marw; neu wedi cael anaf a allai fygwth bywyd; neu nam difrifol a pharhaol parhaus i iechyd neu ddatblygiad I weld yr adroddiad adolygiad ymarfer plant mewn perthynas â Logan Mwangi, dewiswch y ddolen isod:

LM CPR

Wedi ei bostio ar Thursday 24th November 2022