Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Wythnos Diogelu 2022 - Diogelu Ein Cymunedau rhag Camfanteisio

Mae Wythnos Diogelu yn ymgyrch flynyddol, genedlaethol sy’n canolbwyntio ar ystod eang o faterion diogelu sy’n effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae pob un o’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau addysgol a chodi ymwybyddiaeth, wedi’u hanelu at y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. 

Mae pob rhanbarth yn penderfynu ar thema wahanol ac eleni, thema Cwm Taf Morgannwg yw ecsbloetio. 

I weld y rhaglen weithgareddau, sydd â llawer o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer gweithwyr proffesiynol, plant, pobl ifanc a’n cymunedau yn RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, dewiswch y ddolen isod: 

Rhaglen Gweithgareddau

 

 

Wedi ei bostio ar Tuesday 1st November 2022