Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ni waeth pwy ydyn nhw na beth yw eu hamgylchiadau. Mae Diogelu Pobl yn Fater i Bawb.
Pwy yw'r oedolion sydd mewn perygl... Ydw i'n oedolyn mewn perygl?
Mae oedolyn sy mewn perygl yn rhywun sydd angen cymorth gyda'i les corfforol neu emosiynol ac sydd, o ganlyniad, yn gallu bod yn agored i niwed. Efallai ei fod e angen cymorth gyda thasgau byw bob dydd. Er enghraifft, efallai ei fod e angen cymorth gyda bwyta, gwisgo, rheoli arian neu fynd allan o'r tŷ.
Cam-drin - Ydy e'n amlwg?
Gall camdriniaeth ddigwydd mewn sawl ffordd, er enghraifft;
- Cam-drin Corfforol - bwrw, cicio neu ataliad gormodol
- Cam-drin Seicolegol - bygwth niwed neu waradwydd, rheoli cydberthnasau ac ynysu
- Cam-drin Rhywiol - gweithgareddau rhywiol yn erbyn ewyllys yr unigolyn, gan gynnwys cyffwrdd
- Cam-drin Ariannol – twyll neu ddylanwadu ar faterion eiddo neu ewyllysiau
- Esgeulustod - methu â diwallu anghenion beunyddiol oedolyn sy'n wynebu risg
Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi'n amau bod person mewn perygl uniongyrchol o gael niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd efallai'n cael ei gam-drin, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith ar:
Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30am - 5pm
Rhondda Cynon Taf - 01443 425 003
Merthyr Tudful - 01685 725 000
Pen-y-bont - 01656 642 477
Carfan ar Ddyletswydd mewn Argyfwng (y tu allan i oriau): 01443 743 665
Cam-drin oedolion yw pan fydd person yn cael ei drin mewn ffordd wael neu mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'n ofnus neu'n anhapus, yn cael ei niweidio, ei frifo neu'i ecsbloetio
Os ydych chi'n wynebu cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, wedi wynebu cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sy'n wynebu cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, mae modd cael cymorth yn lleol
O ganlyniad i ddiffyg galluedd meddyliol, mae rhai pobl yn methu â gwneud rhai penderfyniadau drostyn nhw'u hunain. Efallai bydd pobl sydd â dementia, anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl yn dod o dan y categori yma.
Mae modd cael rhagor o gymorth a chyngor ar ystod o wefannau allanol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i atal cam-drin ac ymateb yn brydlon pan fo camdriniaeth yn cael ei hamau. Mae pob galwad sy'n ymwneud â phryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn a all fod mewn perygl o niwed, yn cael ei chymryd o ddifrif.
Tudalennau yn yr adran yma
Adrodd Pryderon
I adrodd pryderon am blentyn yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 006
I adrodd pryderon am oedolyn mewn perygl yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 003
I adrodd pryderon ym Merthyr Tudful, ffoniwch:
01685 725 000
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas ag oedolion mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch:
01656 642477
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas â phlant mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch:
01656 642320
Rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau'r swyddfa:
01443 743 665
Rhagor o wybodaeth