Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Rhieni a Chynhalwyr

Mae diogelwch a lles - hynny yw, diogelu - pob plentyn yn fater i bawb. Mae'n bosib eich bod chi'n berthynas, gymydog, ffrind, rhiant, gwarchodwr plant, athro neu'n feddyg - neu'n gweithio i fudiad sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Safeguarding-Paper-Chain-Parents

Rhieni a Chynhalwyr

Mae'r rhan fwyaf o blant yn mwynhau plentyndod hapus gyda'u teuluoedd eu hunain. Yn anffodus, dydy hyn ddim yn wir i bawb.

Yn ystod adegau anodd i'r teulu, rhaid i bawb sy'n adnabod y plentyn wneud eu gorau i ddiogelu'r plentyn a'i amddiffyn rhag niwed yn y dyfodol. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant rhag cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol yn ogystal ag esgeulustod. Mae diogelu hefyd yn golygu helpu plant i dyfu'n oedolion hapus, hyderus ac iach.

Mae'r rhan yma o'r wefan yn cynnig gwybodaeth i helpu rhieni, cynhalwyr neu warcheidwaid i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Drwy ddarparu gwybodaeth am wahanol fathau o gam-drin a'ch cyfeirio chi at ble i rannu eich pryderon neu i gael rhagor o help a chefnogaeth, rydyn ni'n sicrhau bod Diogelu wir yn gyfrifoldeb ar bawb.

Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.