Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Gweinidog yn lansio ymgyrch 'Ni ddylai cartref fod yn lle ofn'

Web Banner Welsh

Gweinidog yn lansio ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ gyda neges i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig: Mae cymorth ar gael, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt heddiw wedi lansio ymgyrch newydd i sicrhau bod y rhai sy’n dioddef ac wedi goroesi camdriniaeth ddomestig yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, a bod modd iddyn nhw gael cymorth drwy gydol yr argyfwng coronafeirws a thu hwnt.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn annog y rhai sydd gerllaw i adnabod arwyddion cam-drin domestig, a cheisio cymorth ar gyfer y rhai sy’n methu gofyn am gymorth eu hunain.

Yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau ar symud yn sgil y coronafeirws, mae nifer yr achosion o ddynladdiad drwy drais domestig wedi cynyddu. Mae ynysu cymdeithasol wedi ei gwneud yn haws i’r rhai sy’n cam-drin reoli’r dioddefwyr, ac wedi ei gwneud yn anoddach i’r dioddefwyr geisio cael cymorth tra bod y rhai sy’n eu cam-drin yn cadw llygad arnynt.

Dywedodd Jane Hutt: “Rwy’n lansio’r ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ heddiw er mwyn rhoi gwybod i ddioddefwyr trais a chamdriniaeth ein bod ni yma i helpu.

Efallai mai gweithwyr mewn siopau, postmyn, gyrwyr faniau bwyd, gwirfoddolwyr yn y gymuned, ffrindiau a chymdogion yw’r unig bobl y bydd dioddefwyr yn eu gweld yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngu ar symudiadau, felly mae’n hanfodol bwysig iddyn nhw adnabod arwyddion cam-drin domestig. Rwy’n annog pawb i fod yn wyliadwrus ar hyn o bryd – mae cymorth ar gael.

Rydyn ni’n gwybod bod y sefyllfa bresennol wedi cynyddu’r risg i’r dioddefwyr. Mae’n gyfnod arswydus iawn. Boed yn dioddef camdriniaeth, neu yn pryderu am berthynas, ffrind, cymydog, cydweithiwr neu rywun rydych chi’n ei helpu yn y cyfnod heriol sydd ohoni, mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel a byw heb ofn.

Mae’n bwysig i’r bobl sydd gerllaw ofyn am help mewn ffordd ddiogel, serch hynny, er eu mwyn eu hunain ac er mwyn y person sy’n dioddef camdriniaeth. Peidiwch ag ymyrryd - ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn, neu ffoniwch 999 os ydych chi’n meddwl bod rhywun mewn perygl uniongyrchol. Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi lansio Pecyn Cymorth sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac adnoddau i unrhyw un sy’n pryderu bod rhywun arall yn dioddef trais neu gamdriniaeth.

Efallai ei bod yn anoddach cael help ar hyn o bryd, ond rwy’ am i chi wybod bod cymorth a chefnogaeth ar gael o hyd. Fyddwch chi ddim mewn trwbl os bydd angen i chi adael eich cartref i fod yn ddiogel.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, heddluoedd Cymru, cynghorau, elusennau, a sefydliadau arbenigol sy’n darparu gwasanaethau cam-drin domestig er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy’n dianc rhag camdriniaeth rywle diogel i fynd iddo.

Gallwch gael cymorth drwy anfon neges destun neu e-bost, drwy sgwrsio byw neu dros y ffôn. Bydd yr heddlu hefyd yn ymateb i alwad 999 dawel – ffoniwch 999 fel arfer, a phan fydd yr alwad yn cael ei hateb, pwyswch 55. Does dim rhaid i chi siarad, bydd yr heddlu yn ymateb.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, Sara Kirkpatrick: “Mae Cymorth i Ferched Cymru yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr ymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’. Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol yn arwain at gynnydd ym mhob math o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, ac yn cael effaith ddifrifol ar ddiogelwch a lles y goroeswyr.

Mae ymateb y gymuned ac undod cymdeithasol yn bwysicach nag erioed ar gyfer herio trais o’r fath. Rydyn ni wedi’n syfrdanu gan yr holl negeseuon cefnogol gan y gymuned, ond mae angen i ni sicrhau ein bod bob amser yn ymateb yn y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol bosib ar gyfer y goroeswyr.

Er mwyn helpu gyda hyn, rydyn ni wedi datblygu pecyn cymorth sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth benodol ar gyfer amrywiol aelodau o’r gymuned, o wirfoddolwyr i gyflogwyr, ynghyd ag unigolion, er mwyn tynnu sylw at oroeswyr a’u cefnogi. Rydym yn gobeithio y bydd y ddwy ymgyrch yn ysgogi Cymru i sefyll yn gadarn wrth ochr y goroeswyr, gan ddweud yn glir nad ydyn nhw ar ben eu hunain a bod help ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cwrs e-ddysgu ar-lein er mwyn eich helpu i adnabod arwyddion cam-drin domestig, a deall sut y gallwch helpu.

Os ydych chi’n dioddef trais neu gamdriniaeth yn eich cartref, neu os ydych chi’n pryderu am rywun, mae llinell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn ar gael yn rhad ac am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Wedi ei bostio ar Wednesday 20th May 2020