Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Arolwg o Gasineb at Fenywod Ar-lein

Mae Cwmpas wedi cael eu hariannu gan Ofcom i ddarganfod mwy am farn pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf ynghylch misogyny ar-lein. 

Mae Cwmpas eisiau dysgu mwy fel y gallant helpu i wneud gofodau ar-lein yn fwy diogel i fenywod a merched yn RhCT.  Mae’r arolwg hwn yn cynnwys cwestiynau ynghylch cam-drin a gwahaniaethu ar-lein a allai beri gofid i rai pobl. 

Bydd yr arolwg hwn yn gofyn am rywfaint o wybodaeth amdanoch chi er mwyn deall sut mae casineb ar-lein wedi effeithio ar wahanol rannau o'r gymuned yn RhCT. 

Os ydych chi mewn perygl ar unwaith, ffoniwch 999. 

Os ydych am gael cymorth, cysylltwch â:

 Bydd canlyniadau cyfunol yr arolwg hwn yn cael eu rhannu ag Ofcom, ond ni fydd modd adnabod unigolion. Gallwch weld mwy am sut mae Cwmpas yn amddiffyn eich preifatrwydd yma. 

I gwblhau'r arolwg hwn, dewiswch y ddolen hon - https://www.surveymonkey.com/r/GasinebatFenywodAr-lein
Wedi ei bostio ar Monday 28th Ebrill 2025