Mae Wythnos Diogelu 2025 yn ymgyrch flynyddol genedlaethol sy'n cael ei gynnal rhwng dydd Llun, 10 Tachwedd a dydd Gwener, 14 Tachwedd. Eleni, mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn canolbwyntio ar y thema Niwed Ar-lein: Cadw eich hunain ac eraill yn ddiogel.
Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn codi ymwybyddiaeth ar draws RCT, Merthyr Tudful a Bont ar Ogwr am y risgiau o niwed a cham-drin ar-lein, a sut gall unigolion warchod eu hunain a phobl eraill mewn gofodau digidol.
Beth yw niwed a cham-drin ar-lein?
Mae niwed ar-lein yn cyfeirio at y risgiau y mae modd i bobl eu hwynebu trwy lwyfannau digidol. Mae modd iddo effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran neu eu cefndir, ac yn aml mae'n digwydd mewn mannau bob dydd megis y cyfryngau cymdeithasol,
apiau negeseuon, llwyfannau gemau a gwefannau. Mae mathau o niwed ar-lein yn cynnwys:
- Cam-drincymdeithasol acemosiynol:Seiberfwlio, aflonyddu ar-lein, seiberstelcio, docsio.
- Cam-drin a chamfanteisio rhywiol: Meithrin priodas amhriodol, gorfodaeth, rhannu delweddau rhywiol heb ganiatâd (a eliwir hefyd yn 'revenge porn'), pobl ffug.
- Cynnwys niweidiol ar-lein: Araith gasineb, deunydd eithafol, heriau peryglus ar-lein.
- SgamiauaThwyllAriannol: Gwe-rwydo, sgamiau rhamant, sgamiau buddsoddi.
Mae Wythnos Diogelu yn gyfnod penodol i dynnu sylw at y materion sy'n effeithio ar ddiogelwch a lles unigolion yn ein cymunedau. Drwy ganolbwyntio ar niwed ar-lein, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu mewn mannau digidol wrth eu grymuso â'r wybodaeth i aros yn ddiogel.
Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu, p'un a ydych chi'n rhiant, yn warcheidwad, yn
weithiwr proffesiynol neu'n aelod o'r cyhoedd. Mae'r wythnos yma'n gyfle i ddysgu, i rannu a chymryd camau i amddiffyn ein hunan ac eraill.
Mae cyfrifoldeb ar unrhyw berson sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, NEU ymddygiad gweithiwr tuag at blentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, i roi gwybod am hyn ar unwaith:
I adrodd am bryderon ynghylch plentyn sydd mewn perygl:
- RCT – 01443 425006
- Pen-y-Bont ar Ogwr – 01656 642320
- MerthyrTudful–01685725000
I adrodd pryderon am oedolyn sydd mewn perygl:
- RCT – 01443 425003
- Pen-y-Bont ar Ogwr – 01656 642477
- Merthyr Tudful – 01685 725000
Tu allan i oriau arferol: 01443 743665 (mae hyn yn cwmpasu RCT, Merthyr Tudful a Phrydain)
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ctmsb.co.ukAchlysuron Lleol
Yn ystod yr wythnos, bydd sawl achlysur yn cael eu cynnal ledled ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae'r rhai sydd ar agor i'r cyhoedd yn cynnwys:
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd
Seiberdrosedd–StelcioDigidolacAflonyddu(gangynnwysTraisynErbynMenywod a Merched) – Heddlu De Cymru, 10am–11am, ar-lein
Bydd y cyflwyniad yma'n cyflwyno Seiberdroseddu a'i esblygiad dros y blynyddoedd. Bydd yn tynnu sylw at yr effaith ar Stelcio Digidol ac Aflonyddu ac yn rhoi esboniad o'r hyn y mae modd ei wneud i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae'r sesiwn yma’n addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol, cleientiaid ac
aelodau cyffredinol o'r cyhoedd sydd am ddeall heriau stelcio ac aflonyddu a alluogir gan dechnoleg.
I gadw eich lle, defnyddiwch y ddolenyma.
Cyfryngau Cymdeithasol a Chamddefnyddio Sylweddau – Baroda Choices, 10am-12pm, YMa Pontypridd (28 Stryd y Taf, CF37 4TS)
Sesiwn hyfforddi 2 awr i drin a thrafod byd newidiol llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'u dylanwad ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn trafod sut mae cyffuriau'n cael eu sicrhau a'u gwerthu ar-lein, rôl fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein, a sut y mae modd i'r mannau digidol yma gysylltu â gweithgaredd llinellau cyffuriau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at strategaethau ymarferol ar gyfer cadw'n ddiogel ar-lein. Ar gyfer Rhieni, Gwarcheidwaid a Gweithwyr Proffesiynol
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma.
CydnertheddDigidol –SefydliadLucyFaithfull,10am-11am,ar-lein
Wrth i dechnoleg a'r rhyngrwyd newid, mae'r risg i blant hefyd yn newid. Bydd yn trin a thrafod sut i gadw plant a phobl ifainc yn ddiogel ar-lein. Magwch eich hyder wrth gyfathrebu am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Dewch i ddall deddfwriaeth, ymddygiad pryderus ar-lein, ac ystyried datblygu cynllun diogelwch digidol. Ar agor i
rieni/gwarcheidwaid.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma. Dydd Mercher, 12 Tachwedd
Diogelu Plant Ar-lein – Adferiad, 2pm-4pm, ar-lein
Sesiwn i ymarferwyr a rhieni/gwarcheidwaid ar amddiffyn plant a phobl ifainc ar-lein, a fydd yn ymdrin â'r canlynol:
- Sut mae plant yn defnyddio technoleg a'r risgiau
- Gemau/cistiau trysor/pryniannau mewn apiau, ac ati
- Cyfryngau cymdeithasol a phrynu cyffuriau drwy Apiau
- Bwlio ar-lein a'r effaith
- Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma. Dydd Iau, 13 Tachwedd
Niweidio Ar-lein: Cadw Eich Hun ac Eraill yn Ddiogel – Bwrdd Diogelu Cwm TafMorgannwg, 10am-4pm, Hwb Canol Tref Merthyr Tudful (3 Newmarket Walk, CF47 8EL)
Achlysur cymunedol wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal yng nghanol tref Merthyr Tudful i roi gwybodaeth i bobl ar sut i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel ar-lein. Bydd llawer o sefydliadau yn yr achlysur, yn cynrychioli gwahanol wasanaethau. Mae croeso i bawb.
Am wybodaeth am yr achlysur yma, e-bostiwch DiogeluCTM@rctcbc.gov.uk. Ymwybyddiaeth o Dwyll Ar-lein – BAVO, 10.30am-11.45am, ar-lein
Sesiwn wybodaeth a wedi'i ddarparu gan Tarian, Heddlu De Cymru. Mae croeso i bawb. I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma.
YmwybyddiaethoGamfanteisio'nRhywiolarBlant–SefydliadLucyFaithfull,6pm-7.30pm, ar-lein
Dewch i ddeall sut a pham mae camfanteisio'n rhywiol ar blant yn digwydd. Cyfle i drin a thrafod ffactorau risg, arwyddion a dangosyddion. Dysgwch ble i gael cymorth a sut y
mae modd i gamau ataliol cadarnhaol helpu i amddiffyn plant a phobl ifainc rhag wynebu camfanteisio. Yn agored i rieni/gwarcheidwaid.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma. Dydd Gwener, 14 Tachwedd
Cyfryngau Cymdeithasol a Chamddefnyddio Sylweddau – Baroda Choices, 10am-12pm, Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BD
Sesiwn hyfforddi 2 awr i drin a thrafod byd newidiol llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'u dylanwad ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn trafod sut mae cyffuriau'n cael eu sicrhau a'u gwerthu ar-lein, rôl fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein, a sut y mae modd i'r mannau digidol yma gysylltu â gweithgaredd llinellau cyffuriau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at strategaethau ymarferol ar gyfer cadw'n ddiogel ar-lein. Yn
agored i rieni/gwarcheidwaid.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma.
Mae modd dod o hyd i raglen lawn o achlysuron yma.
Wedi ei bostio ar Monday 10th November 2025