Yn ddiweddar, mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg wedi cymeradwyo Protocol ar gyfer Rheoli Achosion Hunan-esgeulustod Difrifol, sy'n eistedd ochr yn ochr â'r Canllawiau Staff Amlasiantaethol ar gyfer Gweithio gyda Phobl sy'n Hunan-esgeuluso.
I lenwi Ffurflen Cyfeirio Panel Partneriaeth Hunan-esgeulustod, dewiswch y ddolen hon.
Cynhaliwyd pedair sesiwn ymwybyddiaeth ar-lein yn ystod mis Medi i helpu ymarferwyr a'u rheolwyr trwy gydol Cwm Taf Morgannwg i ddeall y canllawiau newydd a sut y dylid ei ddefnyddio cyn ei ddyddiad gweithredu swyddogol ar Hydref 4ydd.
Roedd y sesiynau'n ymdrin â:
Beth yw hunan-esgeulustod, y dangosyddion a'r achosionGweithio gyda phobl sy'n hunan-esgeulusoAsesiad o risg a galluOffer ymarferY Panel Partneriaeth Hunan-esgeulustod newydd a sut i gyfeirio ato
Oherwydd poblogrwydd y sesiwn a'r galw am slot arall, mae sesiwn arall wedi'i threfnu ar gyfer dydd Iau, 18fed Tachwedd rhwng 11am a 12pm. I gofrestru, dewiswch y ddolen hon. Sylwch na ellir cwblhau'r cofrestriad ar Internet Explorer. Mae angen porwr gwe amgen, fel Google Chrome.
Gellir gweld a lawrlwytho copi o'r cyflwyniad trwy ddewis y ddolen hon.
 
Tudalennau yn yr adran yma
	
 
 
 
					Adrodd Pryderon
					I adrodd pryderon am blentyn yn RhCT, ffoniwch: 
01443 425 006
					I adrodd pryderon am oedolyn mewn perygl yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 003
					I adrodd pryderon ym Merthyr Tudful, ffoniwch: 
01685 725 000
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas ag oedolion mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch: 
 01656 642477
 
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas â phlant mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch: 
01656 642320
					Rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau'r swyddfa:
01443 743 665
					
						Rhagor o wybodaeth