Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn lansio Bwletin Diogelu Misol

Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn falch o gyflwyno Diweddariad Hyfforddiant Diogelu newydd, a fydd yn cael ei rannu â phartneriaid ar sail misol. Mae'r diweddariad wedi cael ei ddatblygu i helpu sicrhau bod ymarferwyr a rheolwyr yn derbyn yr wybodaeth sydd ei angen am yr ystod eang o gyfleoedd dysgu yn seiliedig ar ddiogelu sydd ar gael ledled y rhanbarth ac yn genedlaethol.

Bydd pob rhifyn yn dwyn ynghyd hyfforddiant am ddim, gweminarau ac achlysuron  codi ymwybyddiaeth gan amrywiaeth o sefydliadau a meysydd pwnc. Mae'r rhifyn cyntaf yn cynnwys cyfleoedd sy'n ymdrin â phynciau megis cam-drin plant yn rhywiol, ymddygiad rhywiol niweidiol, ecsbloetiaeth, cam-drin yn y cartref, hunan-esgeulustod, deallusrwydd artiffisial yn y maes gofal cymdeithasol, niwroamrywiaeth, ymarfer sy'n ystyriol o drawma, a diogelu amlasiantaethol.

Nod y diweddariad misol yw cefnogi datblygu proffesiynol parhaus, hyrwyddo dysgu amlasiantaeth, a gwella ymwybyddiaeth o broblemau diogelu sy'n dod i'r ac yn effeithio plant, pobl ifainc ac oedolion. Rydyn ni'n annog partneriaid i rannu'r bwletin yn eang yn ei sefydliadau a rhwydweithiau.

Rydyn ni hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan asiantaethau partner. Os oes gyda chi unrhyw gyfleoedd hyfforddi, cynadleddau, gweminarau neu achlysuron codi ymwybyddiaeth sy'n ymwneud â diogelu ac eisiau eu cynnwys nhw mewn rhifynnau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni trwy e-bostio diogeluctm@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar Friday 28th August 2026