Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Dadansoddiad Themataidd o Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru rhwng 2018 a 2023

Adroddiad Newydd yn Amlygu Pwysigrwydd Gwrando ar Lais y Plentyn ym maes Diogelu

Mae'r adroddiad cenedlaethol newydd hwn yn archwilio gwersi a ddysgwyd o 24 Adolygiad Ymarfer yn ymwneud â Phlant a gynhaliwyd ledled Cymru rhwng 2018 a 2023. Gan ganolbwyntio ar brofiadau bywyd plant, mae'r adroddiad yn ystyried pa mor dda y mae systemau diogelu yn deall, yn cofnodi ac yn gweithredu ar leisiau, dymuniadau a theimladau plant sydd wedi profi niwed difrifol.

Mae'r canfyddiadau'n amlygu'r angen am ddull mwy canolog i'r plentyn o ran diogelu, gan sicrhau bod profiadau plant nid yn unig yn cael eu clywed ond hefyd yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau, ymarfer aml-asiantaethol a dysgu. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cyfleoedd allweddol i gryfhau eiriolaeth, ymgysylltiad â theuluoedd ac ymarfer proffesiynol ledled Cymru.

Dadansoddiad Themataidd o Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru rhwng 2018 a 2023

 

Wedi ei bostio ar Friday 25th September 2026