Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre

 ‘Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre’ – Ymgyrch Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Rheolaeth drwy Orfodaeth #BywHebOfn

 Gweler isod gynnwys e-bost gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r ymgyrch uchod.

Annwyl bawb 

Diolch am gefnogi ein hymgyrch ‘Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre’ hyd yma. Ei nod yw hysbysu’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol a rheolaeth dan orfodaeth bod cymorth ar gael 24 awr y dydd, bob dydd, drwy Byw Heb Ofn. 

Mae angen eich cymorth parhaus arnom i gyrraedd at unrhyw un sydd mewn sefyllfa i helpu’r rhai allai fod mewn perygl, gan gynnwys teulu, ffrindiau, darparwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr. 

Mae sawl ffordd o gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael cymorth a chefnogaeth – dros y ffôn ar 0808 8010800, sgwrsio byw, negeseuon testun neu e-bost. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae’r cyfnod ymgyrchu hwn yn cynnwys hysbysebu ar y teledu (ITV, Sky AdSmart ac S4C), ar sianelau radio rhanbarthol a chymunedol, y wasg, y cyfryngau cymdeithasol a sianelau digidol. Byddwn hefyd yn hysbysebu’r ymgyrch ar fagiau fferyllfeydd ar gyfer meddyginiaethau. 

Rydym wedi datblygu animeiddiad sy’n rhoi cipolwg ar sefyllfaoedd a’r materion lle gall Byw Heb Ofn fod o gymorth. Rydym hefyd wedi diweddaru ein ‘Pecyn Partner’, ac unwaith eto rydym am hyrwyddo’r ddolen at yr hyfforddiant ar-lein sydd ar gael, y mae cynifer wedi ei ddilyn bellach. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cadw-eich-hun-yn-ddiogel-yn-ystod-argyfwng-y-coronafeirws 

Sut y Gallwch Chi Helpu 

•            Rhannu’r negeseuon sydd ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter a Facebook

•            Tagio’r ymgyrch yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #BywHebOfn #LiveFearFree

•            Ar eich gwefan, yn eich cylchlythyron a’ch negeseuon e-bost, a thrwy lawrlwytho ac arddangos posteri a delweddau ar sgriniau digidol wrth i ardaloedd agor i’r cyhoedd.

•            Cwblhau’r modiwl e-ddysgu VAWDASV ac annog eraill i wneud hynny hefyd. 

Os oes angen yr wybodaeth arnoch ar fformat wahanol, cysylltwch â ni: VAWDASV@llyw.cymru 

Gellir lawrwytho holl ddeunyddiau’r ymgyrch (jpegs, posteri a negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol) yma: 

https://llyw.cymru/ddylai-neb-deimlon-ofnus-gartre-deunyddiau

Wedi ei bostio ar Monday 23rd August 2021