Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Offensive Weapon Homicide Review Survey

Gweler isod gynnwys e-bost sydd wedi'i anfon at y Bwrdd Diogelu o'r Uned Atal Trais, mewn perthynas â'r Arolwg Adolygu Dynladdiad Arfau Tramgwyddus.

Annwyl gydweithwyr,

Ysgrifennaf atoch i’ch gwahodd i roi eich barn yn yr arolwg hwn am y ddyletswydd newydd i bartneriaid diogelu lleol gynnal Adolygiad o Laddiad Arfau Niweidiol (OWHR) fel a amlinellwyd yn Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Fel rhan o’r ddyletswydd OWHR newydd, mae’r Swyddfa Gartref yn cynnal cynllun peilot yn gynnar yn 2022 mewn tair ardal lle mae lefelau uchel o laddiadau ag arfau niweidiol. Fel rhanddeiliaid allweddol yn un o ardaloedd arfaethedig y cynllun peilot, rydym yn gofyn i chi rannu eich barn a’ch profiadau gydag adolygiadau presennol i’n helpu ni i lywio’r gofynion newydd i ddiwallu anghenion partneriaid lleol a chael effaith go iawn ar drais difrifol.

Yn ogystal â llywio canllawiau’r adolygiad, bydd canlyniadau’r arolwg yn llywio dyraniad adnoddau i ardaloedd y cynllun peilot yn uniongyrchol er mwyn iddynt ymgymryd â’r ddyletswydd OWHR newydd hon.

Felly, rydym yn dibynnu arnoch chi i rannu eich arbenigedd a’ch dealltwriaeth er mwyn creu proses adolygu a fydd yn gallu gweithio ar eich cyfer chi fel ymarferydd mewn ardal cynllun peilot cyn y caiff y canllawiau eu ffurfioli.

Hefyd, a fyddech gystal ag anfon yr arolwg hwn ymlaen i gydweithwyr sy’n mynychu eich byrddau diogelwch neu ddiogelu cymunedol lleol nu ranbarthol — oedolion a phlant.

Wedi ei bostio ar Monday 23rd August 2021