Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Adnoddau i ategu ymarfer diogelu gyda phobl ifanc,i'w defnyddio gan bawb sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt

Adnoddau i ategu ymarfer diogelu gyda phobl ifanc, i'w defnyddio gam bawb sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt.

Mae’r adnoddau a’r deunyddiau hyn wedi’u datblygu ar sail ymchwil a gweithio mewn partneriaeth â phobl ifanc, gofalwyr maeth, yn ogystal â gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig.

 Fe’u dyluniwyd i’w defnyddio gan bawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt. Os ydych chi’n un o’r bobl hyn, gallai’r rhain fod o ddefnydd i chi, beth bynnag yw eich rôl.

Maent yn rhannu negeseuon gan bobl ifanc sydd â phrofiadau o gamfanteisio a niwed, am eu profiad o ddiogelu a chefnogi. Daw’r negeseuon hefyd gan y rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gofalu amdanynt, am y gefnogaeth sydd ei hangen a rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â diogelu.

Mae’r holl adnoddau wedi’u dylunio i’ch helpu chi i ‘ystyried eich ffordd o feddwl’ am faterion allweddol wrth ddiogelu pobl ifanc rhag camfanteisio, niwed ac enghreifftiau eraill o gamdriniaeth, fel: asesu a rheoli risg, ymateb i bobl ifanc, ymarfer amlasiantaethol, pwysigrwydd iaith, a dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn.They are designed for use by all those working with and caring for young people. If that’s you, regardless of your role you may find them useful.

Mae’r animeiddiad byr hwn wedi’i greu ar gyfer pobl ifanc. Mae’n ffordd o roi gwybod iddynt eu bod wedi cael eu clywed, bod eu lleisiau wedi cyfrannu at bolisi newydd, a bod cefnogaeth ar gael.

https://youtu.be/YT-tftwYUzg

Mae’r animeiddiad yn seiliedig ar negeseuon ymchwil gan bobl ifanc, yn ogystal â gofalwyr ac ymarferwyr. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â phobl ifanc o Voices from Care. Eu geiriau nhw rydych yn eu gweld a’u clywed.

Fersiwn Hawdd ei ddarllen- Cadw plant yn ddiogel rhag camfanteisi  yn rhywiol ar blant

Fersiwn addas i bobl fanc- Cadw plant yn ddiogel rhag camfanteision’n rhywiol ar blant

 Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 7- Canllawiau Statudol: diogelu plat rhag camfantesio rhywiol

Wedi ei bostio ar Tuesday 20th July 2021