Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Diweddariad 'Cadw'n ddiogel ar-lein'

Adnodd Blacmel ar-lein

Cefnogwch bobl ifanc 15-18 oed i adnabod nodweddion allweddol blacmel ar-lein, deall yr effaith mae’n gallu ei chael, a dysgu sut y mae cael gafael ar gymorth. 

Mae adnoddau Thinkuknow ar gyfer grwpiau oedran eraill hefyd ar gael yn ddwyieithog ar Hwb:

Pecyn cymorth 'Dim ond jôc?' (9-12 oed)

Adnoddau i gefnogi ymarferwyr i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith cyfoedion 9-12 oed mewn ffordd briodol a diddorol. Mae'r pecyn yn cynnwys ffilm a thaflenni wedi'u hanelu at rieni a gofalwyr. 

Mae'r pecyn cymorth ‘Codi Llaw, Codi Llais’ hefyd ar gael yn ddwyieithog i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein ymhlith pobl ifanc 13-17 oed.

Adolygiadau apiau Net Aware

Y cyngor diweddaraf i rieni a gofalwyr gan yr NSPCC ac O2 ar Signal, Omegle, Netflix, Among Us a Honk. 

Wedi ei bostio ar Tuesday 14th September 2021