Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Penodi Cadeirydd newydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Mae Lisa Curtis-Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.

Pwrpas Cadeirydd y Bwrdd Diogelu yw sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei amcanion i ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr (Cwm Taf Morgannwg) yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Deddf 2014.

Yn ogystal â hyn, bydd y Cadeirydd yn hyrwyddo’r agenda diogelu yng Nghwm Taf Morgannwg drwy sicrhau bod asiantaethau partner yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

Dywedodd Lisa, “Rwy’n falch o fod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ac i helpu i barhau â’r gwaith hanfodol y mae’r Bwrdd a’i bartneriaid yn ei wneud i amddiffyn pawb yn y rhanbarth rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed. ”

Wedi ei bostio ar Monday 5th December 2022