Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Lleihau nifer y plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sy'n cael eu troseddoli' ym mis Mawrth

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r ‘Protocol Cymru Gyfan – Lleihau nifer y plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sy’n cael eu troseddoli’ ym mis Mawrth. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gan gynnwys, yn hollbwysig, plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, wybod am yr amcanion a’r cyngor yn y protocol.

Bydd y protocol yn helpu pobl sydd, fel rhan o’u gwaith, yn dod i gysylltiad â phlant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Gwneir hyn drwy rannu fframwaith cyffredin o egwyddorion a disgwyliadau sydd wedi’u seilio ar ddull sy'n hyrwyddo hawliau plant ac sy'n diogelu ac yn hyrwyddo eu lles.

Dyna pam rydym wedi rhannu’r wybodaeth addas i ieuenctid a hawdd ei darllen am y protocol.   

Rydym hefyd wedi datblygu animeiddiad byr am y cyngor yn y protocol.

Gwyliwch ein fideo

Helpwch ni i ledaenu’r neges i bawb sy’n gweithio gyda phlant (hyd at 18 oed) ac oedolion ifanc (hyd at 25 oed) sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Gallwch wneud hyn drwy rannu’r fideo a’r wybodaeth gyda phobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Rydym hefyd angen eich help i rannu’r fideo, a’r wybodaeth addas ar gyfer ieuenctid a hawdd ei ddeall am y protocol gyda phlant ac oedolion ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn unrhyw ffordd bosibl. 

Wedi ei bostio ar Tuesday 6th December 2022