Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Gosod y blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru

 Rwy’n ysgrifennu i ofyn am eich help i hyrwyddo arolwg i gasglu adborth am flaenoriaethau ymchwil am ofal cymdeithasol a chymorth i deuluoedd yng Nghymru. Y pwnc y mae gennym ddiddordeb ynddo yw:

Beth sydd bwysicaf o ran datblygu gwasanaethau cymorth i deuluoedd yng Nghymru? 

Rydym wedi lansio’r arolwg gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i glywed gan deuluoedd sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth i deuluoedd, a chan yr ymarferwyr gofal cymdeithasol sy’n eu cefnogi. 

Mae’r arolwg yn casglu profiadau a safbwyntiau pobl a’u pryderon mwyaf enbyd. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i nodi blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol a chymorth i deuluoedd a phlant. Rydym yn gweithio ar y cyd â Chynghrair James Lind, gan ddefnyddio eu dull o flaenoriaethu ymchwil. Y nod yw datblygu agenda ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn archwilio sut y gall Dulliau Seiliedig ar Gryfder helpu i ddatrys rhai o'r materion mwyaf dybryd. 

Sut i gymryd rhan

Anogwch eich cysylltiadau i gymryd rhan yn yr arolwg ymarferwyr a'i hyrwyddo i gydweithwyr. Bydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau ac mae ar agor rhwng 8 Mawrth a 14 Ebrill 2022. 

Cynnwys y teuluoedd rydych yn gweithio gyda

Byddem hefyd yn gwerthfawrogi pe gallech hyrwyddo'r arolwg I rhieni, teuluoedd a phobl ifanc i'r teuluoedd yr ydych yn gweithio gyda nhw. Rydym yn hapus i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y rhai sy’n cael anawsterau wrth gwblhau’r arolwg, gan gynnwys cynnal trafodaethau grŵp am gwestiynau’r arolwg. Gallwn hefyd ddarparu fersiwn hawdd ei darllen o'r arolwg. 

Rydym am sicrhau bod ystod eang o leisiau yn cael cyfle i gael eu clywed. Os gallwch chi gydweithio â ni a helpu i hyrwyddo’r arolwg mewn unrhyw ffordd, cysylltwch ag emma.small@llyw.cymru 

Yr hyn sy'n bwysig yn eich barn chi

Rydym eisiau clywed gan ystod eang o bobl. Pan fydd ymchwil yn digwydd yn y dyfodol, rydym am iddo fod yn ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd yng Nghymru ac sy’n gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a gânt. Mae profiadau bywyd go iawn a safbwyntiau teuluoedd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol wrth galon y prosiect hwn. 

Diolch am eich help. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru neu e-bostiwch emma.small@llyw.cymru

Wedi ei bostio ar Monday 28th March 2022