Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Canllawiau wedi'u diweddaru ar ddelio â phriodas dan orfod

Ar 21 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau wedi’u diweddaru ar ymdrin â phriodasau dan orfod. Mae dolen gan Lywodraeth y DU wedi’i darparu isod:

https://www.gov.uk/government/publications/the-right-to-choose-government-guidance-on-forced-marriage 

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu'r newidiadau fel a ganlyn

  • Yn flaenorol roedd dwy ddogfen ar wahân: canllawiau statudol amlasiantaethol ar gyfer arweinwyr sefydliadau â chyfrifoldebau diogelu, a chanllawiau arfer amlasiantaethol anstatudol ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen. Mae'r rheini bellach wedi'u dwyn ynghyd mewn un ddogfen gyffredinol. Nid yw'r rhaniad rhwng y rhannau sy'n statudol a'r rhai nad ydynt wedi newid.

  •  Erbyn hyn mae penodau penodol ar: rôl cofrestryddion; sut i gefnogi dioddefwyr sydd ag anableddau dysgu; a rôl staff ar ffiniau’r DU. Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am gam-drin sy'n seiliedig ar 'anrhydedd' yn fwy eang, ac ar y gwahanol grwpiau o bobl y gall priodas dan orfod effeithio arnynt, gan gynnwys dioddefwyr gwrywaidd a LHDT.

  • Cynhyrchir y canllawiau statudol o dan ddeddfwriaeth sy'n ymestyn i Gymru a Lloegr, ac mae llawer o gynnwys y canllawiau arfer anstatudol yn ymwneud â phriodasau dan orfod a allai ddigwydd yn y naill wlad neu'r llall. Mae rhai o'r penodau yn y canllawiau arfer yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl, megis plismona a staff Llu'r Ffiniau. Mae eraill yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli, ac mae'r canllawiau'n nodi'r sefyllfaoedd yng Nghymru a Lloegr pan fyddant yn wahanol.

 Lle bo'n berthnasol, mae croeso i chi rannu hyn ar draws eich rhwydweithiau

Wedi ei bostio ar Tuesday 29th March 2022