Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Calendr Hyfforddiant Aml-Asiantaeth Newydd

Mae hyfforddiant aml-asiantaeth yn hynod effeithiol wrth helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall eu rolau, eu cyfrifoldebau, y gweithdrefnau ac i greu dealltwriaeth a rennir o asesu a gwneud penderfyniadau.

Mae Adran Datblygu Gweithlu Cwm Taf yn darparu calendr hyfforddi aml-asiantaeth ar gyfer yr holl asiantaethau ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy'n wynebu risg. Mae'r rhaglen hyfforddi aml-asiantaeth yn cael ei chydlynu a'i datblygu gan yr Is-grŵp Hyfforddiant a Dysgu.

I gael gwybodaeth am yr hyfforddiant a ddarperir gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr e-bostiwch scwdp@bridgend.gov.uk

 

Wedi ei bostio ar Friday 13th May 2022