Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Adolygiadau Ymarfer a Gyhoeddwyd yn Ddiweddar

Mae rhwymedigaeth ar bob asiantaeth sy’n ymwneud â gofal, cymorth ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg i sicrhau bod y safonau uchaf posibl o ofal, cymorth ac amddiffyniad yn cael eu darparu a’u cynnal bob amser. Rhan o'r rhwymedigaeth hon yw'r gofyniad i ddysgu o gamgymeriadau, yn enwedig y rhai sy'n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol.

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf gyfrifoldeb i sefydlu Adolygiad Ymarfer pan fydd y meini prawf sy’n ofynnol yn cael eu bodloni.

Cynhelir Adolygiad Ymarfer os;

  • bod camdriniaeth neu esgeulustod yn hysbys neu’n cael eu hamau a bod yr unigolyn wedi marw;
  • neu wedi cael anaf a allai fygwth bywyd;
  • neu nam difrifol a pharhaol parhaus i iechyd neu ddatblygiad

I weld yr adroddiadau adolygiad ymarfer a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar a sesiynau briffio 7 munud, dewiswch y dolenni isod:

 

Wedi ei bostio ar Monday 16th May 2022