Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Eich cyfle i lunio'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed

Eich cyfle i lunio'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed

Mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.

Wedi’u datblygu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, mae’r safonau drafft wedi’u cynllunio i helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd ei angen yn cael hyfforddiant diogelu cyson ac o ansawdd uchel. Yn benodol, bydd y prosiect yn sicrhau:

  • Ssefydliadau yn ymgorffori’r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a’u gweithdrefnau diogelu-    
  • Bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol-       
  • Ymarferwyr yn cael mynediad i Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â nhw.

Dywedodd Nikki Kingham, Rheolwr Busnes, Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg: “Diben y Safonau Diogelu Cenedlaethol yw gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn cael hyfforddiant cyson o ansawdd da sy’n berthnasol i’w rôl a’u cyfrifoldebau, a’n bod ni, fel ymarferwyr, yn gallu diogelu pobl hyd eithaf ein gallu.

“Er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben mae angen i ni glywed gan ystod mor eang â phosibl o ymarferwyr a sefydliadau a hoffem annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad.” 

Mae dogfen Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol drafft bellach wedi'i chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Gallwch ddarllen y ddogfen ddrafft ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yna gallwch chi ddweud eich dweud ar y drafft drwy:

• cwblhau'r arolwg ar-lein
• cwblhau'r ddogfen ymgynghori a'i e-bostio i ymgynghoriadau@gofalcymdeithasol.cymru
• rhannu eich barn yn uniongyrchol ag aelod o'r grŵp prosiect gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn y ddogfen ymgynghori

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin 2022.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain ar ddatblygu’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae’r safonau wedi’u cydgynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol aml-asiantaeth yn ogystal â grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol o’r gwaith.

Datblygwyd y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol mewn ymateb i gydnabyddiaeth nad oes safonau aml-asiantaeth, cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu ar waith; bod diffyg cysondeb o ran cynllun, cynnwys a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru; a bod dryswch yn aml ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.

Wedi ei bostio ar Monday 16th May 2022