Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Ffordd newydd o weithio i leihau'r nifer o blant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal

Yn dilyn y digwyddiadau cydweithredol llwyddiannus y 4C’s wyneb-yn-wyneb ag arweinwyr strategol, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd - Y Ffordd Newydd o Weithio Protocol Cymru Gyfan; Lleihau troseddoli plant ac oedolion ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, rwyf yn amgáu dolen i'r pecyn cymorth ymarferol er ddefnydd gan weithwyr proffesiynol. 

Nod y pecyn cymorth hwn yw troi'r egwyddorion ym Mhrotocol-Cymru Gyfan ar waith.   Y gobaith yw y bydd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth fel adnodd i hyfforddi a chefnogi cydweithwyr amlasiantaethol sy'n gweithio gyda phlant profiadol gofal ac oedolion ifanc. 

Comisiynwyd yr elusen genedlaethol Missing People mewn partneriaeth â Llamau a'r ymgynghorydd Claire Sands gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs) i ddatblygu'r pecyn cymorth hwn. 

Mae'r ddolen o fewn y flyer ynghlwm ond wedi ei gopïo yma er mwyn hwyluso. 

Lleihau Troseddu plant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarferol i Weithwyr Proffesiynol - Pobl Ar Goll (missingpeople.org.uk)

Allech chi ddosbarthu'r daflen drwy gydol eich sefydliad a'ch rhwydweithiau drwy e-bost, postio ar wefan eich sefydliadau ac unrhyw sianeli cyfryngau cymdeithasol rydych chi'n eu defnyddio i sicrhau bod y ddolen yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl.

 

 

Wedi ei bostio ar Wednesday 4th January 2023