Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Adroddiad Blynyddol 2022-23

Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23.

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut mae’r Bwrdd Diogelu wedi cyflawni ei amcanion fel y nodir yn ei Gynllun Blynyddol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Roedd ffocws cryf ar ddatblygu ymagwedd strategol y Bwrdd at gamfanteisio, mewn perthynas â phlant ac oedolion sy’n wynebu risg a bydd hyn yn parhau yn 2023-2024.

I weld yr Adroddiad ac i ddarganfod sut y gweithredodd y Bwrdd ei Gynllun Blynyddol a beth oedd y cyflawniadau allweddol, dewiswch y ddolen hon.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn darganfod mwy am Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, neu os hoffech chi gyfrannu at lywio ei flaenoriaethau neu fod yn rhan o’i waith, e-bostiwch: ctmsafeguarding@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar Thursday 3rd August 2023