Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Cynhadledd Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru 2023

‘Taith goroeswr Ymosodiad Rhywiol: Llwybrau tuag at adferiad’ 

Mae Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru (GYRC) yn eich gwahodd i’n Cynhadledd flynyddol 2023 sydd wedi’i seilio ar thema’r llwybr dioddefwyr a goroeswyr drwy ein gwasanaethau. 

Nodau’r digwyddiad yw: 

  • Darparu ddiweddariad ar y datblygiadau ar gyfer rhaglen GYRC, a throsolwg o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol 
  • Rhannu ‘arferion gorau’ ar gyfer gwasanaethau ymosodiadau rhywiol ledled Cymru 
  • Darparu mewnwelediad i'r gwahanol lwybrau y gall dioddefwyr a goroeswyr eu dilyn, a gwasanaethau cysylltiedig wrth bob cam

 Pwy all fynychu: Pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio mewn amgylchedd lle gellir datgelu ymosodiad rhywiol. Fel staff meddygol y GIG (ymgynghorwyr, archwilwyr meddygol fforensig, a nyrsys) a staff anfeddygol, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, Cynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol, gweithwyr argyfwng, erlynwyd cyfiawnder troseddol ac ymchwilwyr academaidd o sefydliadau statudol, cyhoeddus a thrydydd sector ar draws Cymru. 

Pryd a Ble:

Dydd Mawrth 13 Mehefin 2023, 9am-5pm

(Drysau ar agor 8.30 am)

Canolfan Busnes Coleg Caerdydd a'r Fro

Campws Canol y Ddinas, Heol Dumballs, Caerdydd, CF105 FE 

Er mwyn gofrestru ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/576048094357 

Mae lleoedd ar gyfer y gynhadledd yn gyfyngedig ac felly’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch heddiw! 

Unwaith nad oes unrhyw docynnau ar ôl, bydd tudalen Eventbrite yn cau. Yna bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb i gael eich ychwanegu at y rhestr wrth gefn. 

Bydd y siaradwyr a'r agenda yn cael ei cyhoeddi hyn bo hir. 

Os ni ellir bod yn bresennol, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ac unrhyw faterion wrth gofrestru, rhowch wybod i'r tîm WSAS.programme@wales.nhs.uk  Rydym yn disgwyl llawer iawn o ddiddordeb, wedyn yn gallu ailddyrannu eich lle. 

Gefynnem yn garedig i chi rhannu'r digwyddiad gyda'ch cydweithwyr a'ch rhwydweithiau.

Wedi ei bostio ar Friday 31st March 2023