Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc ar yr Ymylon, sy'n ymwneud yn gryno â phlant coll a'r rhai sy'n agored i gamfanteisio troseddol.

Mae’r ymchwiliad hwn yn dilyn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwygio radical ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. O'r dystiolaeth a ddaeth i law, amcangyfrifir bod y plant hyn yn cyfrif am bron i 40% o blant sy'n mynd ar goll yng Nghymru. Hefyd, soniwyd bod grwpiau penodol y credir eu bod mewn perygl o gael eu 'troseddoli' yn cynnwys plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, a phlant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:

Plant ar goll:

    • Natur a graddfa: y mater ac amrywiadau rhanbarthol.

    • Grwpiau mewn perygl: gan gynnwys effaith profiad o ofal a lleoliadau y tu allan i'r ardal.

    • Ymarfer: materion fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.

    • Polisi: Effeithiolrwydd ymatebion polisi ac arfer datganoledig, gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru.

    • Pwerau datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder troseddol ac Ieuenctid. 

Plant a phobl ifanc sy’n ddioddefwyr camfanteisio troseddol:

    • Natur a graddfa: ledled Cymru ac amrywiadau rhanbarthol (e.e. traddodiadol, cysylltiedig â chyffuriau, rhywiol, ariannol,).

    • Grwpiau mewn perygl: gan gynnwys profiad o ofal, plant sy'n profi trawma yn y cartref a phlant nad ydynt wedi cofrestru mewn addysg prif ffrwd.

    • Polisi: Effeithiolrwydd polisi datganoledig gan gynnwys trosolwg gan Lywodraeth Cymru. P'un a oes cyfatebiaeth effeithiol â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru fel Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

    • Ymarfer: Dulliau o atal, cydnerthedd cymunedol, ymyriadau cynnar, cymorth a ddarperir a strategaethau ymadael i ddioddefwyr. Materion ymarferol fel rhannu gwybodaeth a chasglu data.

    • Pwerau datganoledig a phwerau’r Deyrnas Unedig: Pa mor gydgysylltiedig yw'r rhyngwyneb rhwng polisi datganoledig a heb ei ddatganoli fel cyfiawnder troseddol ac ieuenctid. A oes unrhyw densiwn rhwng cyfraith droseddol a diogelu.

Grwpiau eraill: Efallai yr hoffech enwi grwpiau eraill o blant ‘ar yr ymylon’. Byddai'r rhain yn grwpiau o blant mewn amgylchiadau sy'n gofyn am ymateb penodol gan y gwasanaethau plant neu ddarparwyr statudol eraill ac y mae pryderon yn eu cylch o ran y polisi neu'r arfer presennol. 

Casglu tystiolaeth

Lansiwyd ymgynghoriad ysgrifenedig, a’r dyddiad cau yw dydd Iau 28 Mawrth 2024. Cyfeiriwch at y dudalen ymgynghori ar sut i gyflwyno eich ymateb. Bydd y Pwyllgor yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ac yn gwneud gwaith ymgysylltu yn ystod tymor yr haf.

Ymgynghoriadau

 

Wedi ei bostio ar Thursday 8th February 2024