Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2024

Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024 ar y 6ed o Chwefror 2024, gyda dathliadau a dysgu yn seiliedig ar y thema ‘Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein’.

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw dathliad mwyaf y DU o ddiogelwch ar-lein. Bob blwyddyn rydym yn ymdrin â mater neu thema ar-lein sy'n siarad â'r pethau y mae pobl ifanc yn eu gweld ac yn eu profi ar-lein. Wedi’i greu mewn ymgynghoriad â phobl ifanc ledled y DU, eleni bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn canolbwyntio ar newid ar-lein, gan gynnwys:

  • Safbwynt pobl ifanc ar dechnoleg newydd a datblygol
  • Defnyddio'r rhyngrwyd i wneud newid er gwell
  • Y newidiadau y mae pobl ifanc am eu gweld ar-lein
  • Y pethau a all ddylanwadu a newid y ffordd y mae pobl ifanc yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu ar-lein ac all-lein

Wedi’i gydlynu yn y DU gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, mae’r dathliad yn gweld miloedd o sefydliadau’n cymryd rhan i hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol i blant a phobl ifanc.

Am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen hon.




Wedi ei bostio ar Wednesday 14th February 2024