Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Seminarau am ddim i weithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn lansio cyfres o seminarau yn canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol a’r effaith ar y gymuned. Mae’r gyfres hon o bum digwyddiad ar-lein yn dod ag ymarferwyr a phartneriaid ynghyd o bob cwr o Gymru i archwilio’r croestoriad rhwng iechyd, cyflawnder, cynhwysiant a diogelwch cymunedol.

P’un ai ydych chi’n ymarferydd rheng flaen, yn wneuthurwr polisi neu’n ymchwilydd, mae’r seminarau hyn yn cynnig persbectif gwerthfawr a syniadau ymarferol i wella eich gwaith.

Mae’r holl seminarau’n rhad ac am ddim. Bydd y sesiynau’n cynnwys amser ar gyfer cwestiynau a byddant yn cael eu recordio (yn ddibynnol ar gadarnhad).

Cliciwch y dolenni isod i gofrestru neu mewngofnodwch i’n porth aelod newydd i archebu lle.

Ardal Marmot – Creu Gwent mwy diogel
Dydd Gwener 16 Mai, 10:00–11:30
Mae ymagwedd Marmot yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy lens sy’n ystyriol o drawma. Bydd yr Athro Tracy Daszkiewicz (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) a David Leech (Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen) yn trafod sut y daeth Gwent y rhanbarth gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r model hwn.

Troseddau Casineb ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Gwneud y strydoedd a chymunedau’n fwy diogel
Dydd Mercher 21 Mai, 10:00–11:30
Ymunwch â Dr Lella Nouri (Prifysgol Abertawe) a Rebecca Bryant OBE (Resolve) i archwilio ymatebion arloesol i droseddau casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dargyfeirio ar gyfer Troseddau yn Ymwneud â Meddu ar Gyffuriau
Dydd Mawrth 3 Mehefin, 14:00-15:30
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno cynllun dargyfeirio ar gyfer oedolion sy’n cael eu dal gyda sylweddau anghyfreithlon yn eu meddiant, gan gynnig llwybr tuag at driniaeth ac adferiad y tu allan i’r system gyfiawnder troseddol draddodiadol. Ymunwch â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a’r Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Roberts wrth iddynt amlinellu sut y cafodd y cynllun ei gyflwyno, y partneriaid fu’n ymwneud â hyn a’r gwersi a ddysgwyd.

Niwrowahaniaeth ac Eithafiaeth – Deall yr hyn sy’n gwneud unigolion yn agored i niwed a mynd i’r afael â’r risgiau
Dydd Mawrth 10 Mehefin, 14:00–15:30
Bydd Donna Sharland (Niwrowahaniaeth Cymru) yn trafod yr  elfennau y gall unigolion niwrowahanol eu hwynebu sy’n eu gwneud yn agored i niwed mewn perthynas â radicaleiddio a phwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael dealltwriaeth glir o’r risgiau, strategaethau diogelu ymarferol a sut i gefnogi unigolion yn fwy effeithiol.

Gofal Cywir, Person Cywir – Y cynnydd o ran ei gyflwyno a’i weithredu
Dydd Mercher 25 Mehefin, 13:00–14:30
Mae Gofal Cywir, Person Cywir yn cael ei weithredu ar hyd a lled Cymru i sicrhau fod unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn cael eu cefnogi gan y gwasanaethau mwyaf priodol. Mae’r sesiwn hwn yn rhoi trosolwg o gyflwyno’r cynllun hyd yma, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Partneriaeth Genedlaethol Gofal Cywir, Person Cywir yng Nghymru a heddluoedd ar hyd a lled Cymru.
Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd Ebrill 2025