Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Rhaglen Ddysgu #EdrychYn Agosach

Mae Rhaglen Ddysgu ddiweddaraf #LookCloser Cymdeithas y Plant ar gael nawr. Mae'r sesiynau wedi'u datblygu yn seiliedig ar ddysgu gan Gymdeithas y Plant a phartneriaid ehangach i fynd i'r afael â materion camfanteisio a cham-drin plant.

Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim ac yn cael ei chyflwyno ar Microsoft Teams Live sy’n golygu:

  • Bydd rhyngweithio gyda'r cyflwynwyr a chyfranogwyr yn gyfyngedig.
  • Fodd bynnag, bydd swyddogaeth Holi ac Ateb.
  • Byddwn yn defnyddio offer megis Menti i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a thrafod.

Mae gan yr amserlen ddolenni i bob digwyddiad dysgu ar EventBrite, lle gallwch archebu lle ar gyn lleied neu gynifer o ddigwyddiadau ag y dymunwch. Mae pob un o’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd proffesiynol amrywiol, felly cofiwch rannu’r digwyddiadau hyn ag unrhyw un y credwch y byddai’n elwa o fynychu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein digwyddiadau dysgu, cysylltwch â prevention@childrenssociety.org.uk

Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd Ebrill 2025