Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Cael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal

Bydd y gyfraith newydd, a basiwyd gan y Senedd ym mis Chwefror, yn gwella gwasanaethau i blant, teuluoedd a phobl anabl.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i roi terfyn ar elw preifat mewn gofal preswyl a maeth i blant.

Dim ond y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu ddielw fydd yn darparu gofal i blant sy'n derbyn gofal yn y dyfodol.

Bydd hyn yn sicrhau bod arian sy’n mynd i’r system yn cael ei ail-fuddsoddi i les plant, yn hytrach na’i gymryd fel elw i gyfranddalwyr.

Bydd y gyfraith hefyd yn galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol o fewn gofal iechyd parhaus y GIG, fel bod gan bobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor fwy o reolaeth dros eu trefniadau gofal.

I weld y Datganiad i'r Wasg ar hyn, dewiswch y ddolen hon.

Gweler isod y wybodaeth wedi’i theilwra am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal.

Rhannwch gyda'ch gweithlu a phlant a phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth a gwybod pwy i gysylltu â nhw os ydyn nhw eisiau mwy o wybodaeth.

Cael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: taflenni gwybodaeth | LLYW.CYMRU

Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd Ebrill 2025