Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Prawf o System Rhybuddion Argyfwng

Bydd prawf o System Rhybuddion Argyfwng yn cael ei gynnal ddydd Sul, 7 Medi 2025 am 3:00pm. Rydyn ni'n effro i bryderon yn ymwneud â'r effaith bosibl y mae'r system rhybuddion am gael ar ddioddefwyr cam-drin domestig, yn enwedig y rhai sydd â ffonau cudd. Isod, mae modd gweld rhestr o'r risgiau allweddol y mae dioddefwyr cam-drin domestig yn eu hwynebu, a gwybodaeth yn ymwneud ag optio allan.

Risgiau Allweddol i Ddioddefwyr Cam-drin Domestig

  • Rhybuddion uchel: Yn rhan o'r prawf, bydd sŵn sy'n debyg i seiren a bydd ffonau symudol yn crynu am tua 10 eiliad, hyd yn oed os yw'r ddyfais ar osodiad tawel

  • Ffonau sydd wedi’u cuddio: I oroeswyr cam-drin domestig sy'n cadw ffôn cudd ar gyfer diogelwch neu i’w ddefnyddio i wneud cyswllt mewn argyfwng, mae modd i'r rhybudd yma tynnu sylw at y ffôn sydd wedi'i guddio.

  • Cam-drin sy'n cael ei achosi gan dechnoleg: Mae'n bosibl y bydd y rhai sy'n cam-drin yn gallu defnyddio’r rhybuddion yma i ddod o hyd i ffonau sydd wedi’u cuddio, gan ychwanegu at y broblem gynyddol o gam-drin sy'n cael ei achosi gan dechnoleg. 

Mae modd gweld rhagor o fanylion a chyfarwyddiadau yn ymwneud â sut i optio allan yma:

Prawf o System Rhybuddion Argyfwng: Cwestiynau Cyffredin - GOV.UK

Optio allan o rybuddion argyfwng - GOV.UK

Wedi ei bostio ar Monday 8th September 2025