Rydyn ni wedi ychwanegu gweminar arall! Sgroliwch i'r diwedd am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle ar y weminar olaf yn y gyfres hon.
Hoffem eich gwahodd i ymuno â’n gweminarau ar-lein a fydd yn canolbwyntio ar gefnogi plant mewn gofal preswyl a allai fod wedi profi trawma.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
- pobl sy'n datblygu gwasanaethau preswyl i blant
- gweithwyr preswyl i blant
- pobl sy'n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl
- pobl sy'n cefnogi'r gweithlu mewn lleoliadau preswyl i blant.
Gweminar: defnyddio arweinyddiaeth dosturiol sy’n ystyriol o drawma mewn gwasanaethau gofal preswyl i blant
Dyddiad: 15 Mai 2025, 1.30pm i 3.30pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle
Gweminar: cefnogi pobl ifanc niwroamrywiol sydd wedi profi trawma
Dyddiad: 22 Mai 2025, 10.30am i 12.30pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle
Gweminar: trawma dirprwyol a llesiant staff mewn lleoliadau preswyl i blant
Dyddiad: 4 Mehefin 2025, 10.30am i 12.30pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle
Gweminar: beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar drawma mewn gofal preswyl i blant?
Dyddiad: 24 Mehefin 2025, 10.30am i 12.30pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle
Gweminar: creu amgylcheddau therapiwtig ar gyfer pobl sy'n niwroamrywiol neu sydd wedi profi trawma
Dyddiad: 2 Gorffenaf 2025, 10.30am i 12.30pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyfforddiant hwn, cysylltwch â Gofalpreswylplant@gofalcymdeithasol.cymru
Wedi ei bostio ar Wednesday 7th May 2025