Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2025

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2025 nawr ar agor ar gyfer enwebiadau!

Ymgeisiwch nawr.

Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gael eu henwebu gan drydydd parti. Croesawir enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect yng Nghymru p’un ai a ydynt yn cael eu talu neu ddim yn cael eu talu o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector – elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Gallwch gyflwyno eich enwebiadau drwy lawrlwytho’r ffurflen o’n gwefan a’i dychwelyd i safercommunities@wlga.gov.uk.

Bydd cynigion yn cau am 5pm ddydd Gwener 3 Hydref.

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ddydd Iau 27 Tachwedd, a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn falch iawn o groesawu'r newyddiadurwr a darlledwr y BBC, John-Paul Davies, yn ôl i gyflwyno'r gwobrau ochr yn ochr â gwesteion ac enwogion eraill.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich enwebiadau a dathlu llwyddiannau wrth gadw ein cymunedau yn ddiogel.

Wedi ei bostio ar Thursday 28th August 2025