Mae'r rhan fwyaf o blant yn mwynhau plentyndod hapus gyda'u teuluoedd eu hunain. Yn anffodus, dydy hyn ddim yn wir i bawb.
Yn ystod adegau anodd i'r teulu, rhaid i bawb sy'n adnabod y plentyn wneud eu gorau i ddiogelu'r plentyn a'i amddiffyn rhag niwed yn y dyfodol. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant rhag cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol yn ogystal ag esgeulustod. Mae diogelu hefyd yn golygu helpu plant i dyfu'n oedolion hapus, hyderus ac iach.
Mae'r rhan yma o'r wefan yn cynnig gwybodaeth i helpu rhieni, cynhalwyr neu warcheidwaid i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Drwy ddarparu gwybodaeth am wahanol fathau o gam-drin a'ch cyfeirio chi at ble i rannu eich pryderon neu i gael rhagor o help a chefnogaeth, rydyn ni'n sicrhau bod Diogelu wir yn gyfrifoldeb ar bawb.
Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.
 
 
Tudalennau yn yr adran yma
 
 
 
					Adrodd Pryderon
					I adrodd pryderon am blentyn yn RhCT, ffoniwch: 
01443 425 006
					I adrodd pryderon am oedolyn mewn perygl yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 003
					I adrodd pryderon ym Merthyr Tudful, ffoniwch: 
01685 725 000
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas ag oedolion mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch: 
 01656 642477
 
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas â phlant mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch: 
01656 642320
					Rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau'r swyddfa:
01443 743 665
					
						Rhagor o wybodaeth