Ydych chi wedi cymryd rhan?
Mae eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Emma Wools yn gyfrifol am osod y gyllideb ar gyfer Heddlu De Cymru, sy’n cynnwys y swm y mae trigolion yn ei gyfrannu tuag at blismona fel rhan o’u Treth Cyngor.
Yn dilyn proses ymgynghori helaeth a gynhaliwyd gennym dros yr haf, dywedodd mwy na 5,000 o bobl wrthym ba feysydd gwasanaeth yr oeddent yn teimlo y dylai’r Comisiynydd fod yn blaenoriaethu. Mae’r adborth hanfodol hwn wedi rhoi eglurder i ni o ran pwrpas, gan sicrhau mai eich blaenoriaethau chi yw ei’n flaenoriaethau. Er mwyn cyflawni gydag effaith, bydd angen buddsoddiad ar y blaenoriaethau hyn, ac mae angen i’r Comisiynydd ystyried yn ofalus sut i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael yn y ffordd orau a’r cyllid ychwanegol y mae angen i ni ei godi i sicrhau y gallwn barhau i fuddsoddi yn eich plismona lleol, sicrhau canlyniadau rhagweithiol mewn atal troseddau a chryfhau’r cymorth a ddarperir i ddioddefwyr.
Cyn bod angen gwneud penderfyniad ar y gyllideb ym mis Ionawr 2025, mae’r Comisiynydd yn annog pobl sy’n byw yn Ne Cymru i rannu eu barn ar faint maen nhw’n barod i’w dalu tuag at blismona lleol yn Ne Cymru, drwy eu treth gyngor yn y flwyddyn sydd i ddod.
Caniatewch ychydig funudau i DDWEUD EICH DWEUD
Mae'r arolwg ar gael yn:
Mae'r arolwg yn cau ddydd Llun 13 Ionawr 2025
Os hoffech gael copi papur o’r arolwg, neu ofyn am fersiwn hygyrch neu iaith wahanol, cysylltwch â’n tîm:
01656 869366 | engagement@south-wales.police.uk | Tŷ Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
Gallwch hefyd ymweld â'n gwefan i ddarganfod mwy: Comisiynydd yn eich gwahodd i ddweud eich dweud ar gyllid yr heddlu yn Ne Cymru - Comisiynyddd yr Heddlu a Throseddau
Wedi ei bostio ar Tuesday 17th December 2024