Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gam-drin.
Gall unrhyw blentyn o unrhyw gefndir gael ei gamfanteisio’n rhywiol, beth bynnag ei ryw, rhywioldeb neu ei gefndir cymdeithasol neu ethnig.
- Nid yw oedran y plentyn yn ddangosydd risg - nid yw'r plant rydych chi'n gweithio gydag yn rhy ifanc.
- Mae troseddwyr yn ystrywgar (manipulative) iawn: efallai eu bod nhw’n defnyddio trais ac ofn, blacmel neu efallai eu bod nhw’n gwneud i'r plentyn teimlo'n euog, yn ddi-werth neu fel nad oes ganddo unrhyw ddewis.
- Efallai bod troseddwr fod yn oedolyn neu'n blentyn, yn ddyn neu'n fenyw, ac o unrhyw gefndir.
- Mae'r troseddwyr sy'n gwneud hyn yn fedrus wrth dargedu a meithrin perthnasau amhriodol gyda phobl ifainc.
Os oes gennych unrhyw bryderon bod plentyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn dioddef camfanteisio rhywiol, mae yna gymorth ar gael.
Dylai unrhyw ymarferydd gyda phryderon siarad â'i Swyddog Diogelu a dilyn gweithdrefnau diogelu ei asiantaeth.
I weld Protocol Cymru Gyfan 'Diogelu a Hyrwyddo Lles Plant sydd mewn Perygl o gael eu Cam-drin drwy Gamfanteisio Rhywiol' neu i lawrlwytho copi o Ffurflen Asesu Risg SERAF neu'r Canllawiau Sgorio Asesiad Risg SERAF, Cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen 'Cysylltiadau defnyddiol' ar ochr chwith y dudalen yma.
View the All Wales 'Safeguarding and Promoting the Welfare of Children who are at Risk of Abuse through Sexual Exploitation' Protocol or download a copy of the SERAF Risk Assessment Form.
Tudalennau yn yr adran yma
Adrodd Pryderon
I adrodd pryderon am blentyn yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 006
I adrodd pryderon am oedolyn mewn perygl yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 003
I adrodd pryderon ym Merthyr Tudful, ffoniwch:
01685 725 000
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas ag oedolion mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch:
01656 642477
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas â phlant mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch:
01656 642320
Rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau'r swyddfa:
01443 743 665
Rhagor o wybodaeth